DATGANIAD AR Y CYD GAN Y Fforwm Rhyngseneddol ar y du yn Ymadael â’r undeb ewropeaidd

 

Cynhaliodd Senedd yr Alban y seithfed Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heddiw. Mae’r Fforwm yn darparu cyfle ar gyfer deialog ryngseneddol rhwng y deddfwrfeydd yn y Deyrnas Unedig, i gefnogi gwaith craffu mwy effeithiol ar faterion sy’n ymwneud ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfarfu’r cynrychiolwyr o bwyllgorau sy’n craffu ar faterion yn ymwneud ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, i drafod a chytuno ar eu hymateb i Weinidog Swyddfa’r Cabinet y DU ar yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae’r llythyr hwn yn argymell y dylai canlyniad yr adolygiad gynnwys cydnabyddiaeth glir o’r rôl graffu ar gyfer Senedd y DU a’r seneddau datganoledig, gan gynnwys darparu gwybodaeth yn amserol. Mae hefyd yn cydnabod ymrwymiad Gweinidog Swyddfa’r Cabinet y DU i ddarparu adnoddau a chefnogi cynigion a gyflwynir ar y cyd gan ddeddfwrfeydd y DU.

Bu’r Fforwm hefyd yn trafod fframweithiau cyffredin a rôl y gweinyddiaethau datganoledig mewn cytundebau rhyngwladol yn y dyfodol. Fel rhan o’r trafodaethau hynny, cyfarfu’r Fforwm â Michael Russell ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol. Mae’r Fforwm hefyd yn argymell, yn ei lythyr at Weinidog Swyddfa’r Cabinet y DU, bod pob Senedd yn cael digon o amser a chyfle i graffu ar fframweithiau cyffredin ac yn eu cymeradwyo.

Yn olaf, cytunodd y Fforwm ar gylch gorchwyl, sy’n atodedig i’r datganiad hwn.

 

Roedd swyddog o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedydd.

Cytunodd y cyfranogwyr ar y datganiad a ganlyn ar ôl y cyfarfod o’r Fforwm:

 

“Er gwaethaf ein safbwyntiau gwleidyddol sy’n amrywio o ran Brexit, mae ein Pwyllgorau unigol yn parhau’n ymrwymedig i weithio ar y cyd i sicrhau bod gwaith craffu effeithiol yn cael ei gynnal ar effaith ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ledled y DU. Caiff hyn ei ddangos yn ôl ein hargymhellion ar y cyd, y cytunwyd arnynt, i Weinidog Swyddfa’r Cabinet ar sicrhau y caiff y rôl ar gyfer Senedd y DU a’r seneddau datganoledig wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol ei chydnabod yn adolygiad Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a gaiff ei gynnal ar hyn o bryd.

Cawsom drafodaeth gynhyrchiol â Michael Russell ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol ynghylch cynnydd y trafodaethau, gan gynnwys datblygu fframweithiau cyffredin, a rôl y gweinyddiaethau datganoledig mewn cytundebau rhyngwladol yn y dyfodol. Rydym wedi cadarnhau ein barn gyffredin y dylai pob Senedd a Chynulliad gael digon o amser i ystyried a chymeradwyo Fframweithiau Cyffredin - boed yn Fframweithiau Cyffredin  deddfwriaethol neu’n Fframweithiau Cyffredin anstatudol â’r Gweinidog dros y Cyfansoddiad.

"Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd y broses Brexit yn datblygu dros y misoedd nesaf. Felly rydym yn bwriadu cyfarfod eto ym mis Mehefin i adolygu’r cynnydd.”

Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r Fforwm yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Mehefin 2019.

Aelodau’n bresennol

Bruce Crawford ASA, Cynullydd, Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Adam Tomkins ASA, Dirprwy Gynullydd, Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Joan McAlpine ASA, Cynullydd, Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol Senedd yr Alban

Mick Antoniw AC, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

David Rees AC, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Arglwydd McFall o Alcluith, Uwch-ddirprwy Lefarydd, Tŷ’r Arglwyddi

Yr Arglwydd Dunlop, aelod, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ’r Arglwyddi

Iarll Kinnoull, aelod, Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar yr Undeb Ewropeaidd

Syr Bernard Jenkin AS, Cadeirydd, Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin

Rowan Cowan AS, aelod, Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin

Peter Grant AS, aelod, Pwyllgor Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, Tŷ’r Cyffredin

 

 

 

 


 

 

Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd - Cylch Gorchwyl

“Prif ddibenion y Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yw darparu cyfrwng ar gyfer deialog a chydweithrediad rhwng seneddwyr o bob senedd yn y DU ar faterion sydd o ddiddordeb i bawb ohonom ac y mae pawb ohonom yn pryderu yn eu cylch, ac i ystyried nifer o heriau o ran craffu sy’n codi yn sgîl y trefniadau cyfansoddiadol newydd y bydd eu hangen ar ôl Brexit, o fewn y DU, a rhwng y DU a’r UE a thu hwnt, gan gynnwys -

·         Cysylltiadau rhynglywodraethol cyfrinachol ac anneddfwriaethol, gan gynnwys strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion;

 

·         Fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol;

 

·         Cytundebau rhyngwladol gan gynnwys cytundebau masnach;

 

·         Rhoi pwerau i Weinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd nad ydynt wedi’u cadw’n ôl sydd ar hyn o bryd o fewn cymhwysedd yr UE;

 

·         Perthynas â’r UE yn y dyfodol, a chysylltiadau rhyngwladol eraill;

 

·         Trefniadau cyfansoddiadol yn y DU yn y dyfodol, gan gynnwys sut y mae meysydd nad ydynt wedi’u cadw’n ôl sydd ar hyn o bryd o fewn cymhwysedd yr UE yn croestorri â meysydd a gedwir yn ôl.

 

Pan fo’n briodol ac ar sail gwaith y pwyllgorau unigol sydd wedi’u cynrychioli ar y Fforwm, byddwn yn ceisio nodi safbwynt cydsyniol a chyffredin o ran ein barn ar bob un o’r meysydd hyn.”